Is-deitlo
Cefndir a phrofiad
Mae Ewrolingo wedi bod yn darparu gwasanaeth is-deitlo'n rheolaidd i gwmnïau teledu sy'n cynhyrchu rhaglenni i S4C.
Dyma enghreifftiau o waith is-deitlo a wnaed hyd yn hyn:
¾ Is-deitlau 888 i gyd-fynd â'r rhaglen ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ i Elidir, Green Bay Media ac Avanti (pob rhifyn sydd erioed wedi'i ddarlledu gydag is-deitlau Saesneg o Fedi 2002 i'r presennol)
¾ Is-deitlau 888 i gyd-fynd â'r rhaglen ‘Y Ferch o Ddolwar Fach’, rhaglen awr o hyd ar fywyd a gwaith yr emynydd Ann Griffiths (a ddarlledwyd ar S4C ym mis Awst 2005) i Elidir
¾ Is-deitlau 888 i gyd-fynd â'r rhaglen 'Elenid a'r Quatuor Ludwig' am y cerddor Elenid Owen (a ddarlledwyd ar S4C ym mis Ebrill 2007) i Green Bay Media
¾ Is-deitlau 888 i gyd-fynd â'r rhaglen ‘Maestro: Carlo Rizzi’ (a ddarlledwyd ar S4C ym mis Ebrill 2007) i Torpedo
¾ Is-deitlau 888 i gyd-fynd â'r rhaglen ‘Y Llyfrgell’ (a ddarlledwyd ar S4C ym mis Mai a Mehefin 2007) i Torpedo
¾ Is-deitlau 888 i gyd-fynd â'r ail gyfres o’r rhaglen ‘Stamina’ (a ddarlledwyd ar S4C rhwng Mai a Gorffennaf 2007) i Avanti
Offer
Mae gan Ewrolingo beiriant is-deitlo sy'n cynnwys y rhaglen ISIS Workstation ar gyfer paratoi ffeiliau EBU.