Cyfieithu ar y pryd
Cefndir a phrofiad
Mae cyfieithydd profiadol ar gael i ddarparu gwasanaeth cyfieithu-ar-y-pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg mewn cyfarfodydd o bob math yn ystod diwrnodau gwaith, gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Dyma enghreifftiau o gyfarfodydd y bu Ewrolingo'n cyfieithu ynddynt yn ddiweddar:
² Cyfweliadau gan Fwrdd yr Iaith i ddewis cwmni i gyfieithu Windows XP ac Office 2003 i’r Gymraeg ac i ddewis ymgynghorwyr i ymgymryd â phrosiectau ymchwil iaith
² Cyfarfod cyhoeddus gan Fwrdd yr Iaith i drafod Siarter Cyngor Ewrop ar Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol
² Y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin
² Cyfarfodydd Pwyllgor Rheoli Llywodraethwyr Cymru
² Fforwm Blynyddol Cyfanfyd
² Seminarau gan Y Sefydliad Tai Siartredig yng Nghymru
² Cyfarfodydd Bwrdd a Gweithgor Iaith Awdurdod Datblygu Cymru
² Seremonïau gwobrwyo yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd yng Nghaerdydd, 2005
² Nifer o gyfarfodydd yn rheolaidd ar gyfer Trosol gan gynnwys cyrsiau hyfforddi Estyn, pwyllgorau ACCAC a CBAC, Cynhadledd Addysg Cymru, Cynhadledd Addysgeg Genedlaethol Cymru, ymchwiliadau cyhoeddus gan y Comisiwn Ffiniau ac Adran Drafnidiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Offer
Mae gan Ewrolingo 40 o glustffonau radio Sennheiser Tourguide a brynwyd yn newydd yn 2004. Gellir trefnu i logi mwy o glustffonau yn ôl yr angen.
Prisiau
Cyfieithu - £40 yr awr a chostau teithio yn ôl cyfradd o £0.40 y filltir.
Llogi offer - £20 y dydd am bob 10 clustffon