Cyfieithu

Cefndir a phrofiad

Mae gan Ewrolingo brofiad helaeth o gyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg gan arbenigo yn y meysydd canlynol: Addysg; Busnes; Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio; Y Cyfryngau; Cyllid; Datblygu Cynaliadwy; Datblygu Economaidd; Y Gyfraith; Llywodraeth Leol; Tai.

Mae'r gwasanaeth cyfieithu'n cynnwys y canlynol: gwneud unrhyw ymholiadau a gwaith ymchwil angenrheidiol ymlaen llaw ac wrth i'r gwaith fynd rhagddo; trosi'r ddogfen yn gywir o'r naill iaith i'r llall yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a gafwyd gan y cwsmer; prawf-ddarllen y cyfieithiad cyn ei ddychwelyd at y cwsmer a chywiro proflenni cyn i'r ddogfen gael ei hargraffu. Gellir anfon testunau i'w cyfieithu trwy'r post ar ffurf copi caled neu ar ddisg, neu drwy neges ffacs / e-bost.

Dyma rai enghreifftiau o ddogfennau a gyfieithwyd gan Ewrolingo ers 2001:

&   ‘Monitoring Poverty and Social Exclusion in Wales 2005’, ‘Sustainable Development in Wales – Understanding Effective Governance’ a ‘Low Income Homeowners in Wales’ i Sefydliad Joseph Rowntree

&   ‘Evaluating Tenant Participation in Housing Management and Design’, ‘Black Minority Ethnic (BME) Housing – A Good Practice Guide for Local Authorities and Housing Associations’, rhifynnau o’r papur briffio ‘Key Information’, datganiadau i’r wasg, taflenni cyhoeddusrwydd, cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau blynyddol i’r Sefydliad Tai Siartredig yng Nghymru

&   ‘The Severn Uplands Catchment Abstraction Management Strategy’ i Liaison Design

&   Adroddiadau blynyddol Y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru

&   Ffurflenni a chanllawiau i Gyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref EM

&   Tudalennau wythnosol ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ ar y We

&   Adroddiadau blynyddol a chylchlythyrau rheolaidd i Cyfanfyd

&   Adroddiadau blynyddol, polisïau, amryw becynnau addysgol a llawlyfrau i gyd-fynd ag arddangosfeydd o waith Ceri Richards a Rhodri Jones i AOCC

&   Amryw bolisïau, llyfrynnau a chyrsiau i Ysgol Gyfun Llanhari, Ysgol Gyfun Rhydfelen ac Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

&   Cwrs Technoleg Gwybodaeth, ‘Managing Farms with IT’, a meddalwedd rheoli cyrsiau ar-lein, ‘Moodle’, i Goleg Sir Gâr

Offer

Mae gan Ewrolingo offer cyfrifiadurol o'r radd flaenaf a chyswllt band-llydan parhaol.

Rydym yn meddu ar y fersiynau diweddaraf o'r meddalwedd mwyaf poblogaidd ar gyfer busnesau a gallwn dderbyn dogfennau a chyflwyno cyfieithiadau ar ffurf ffeiliau Word, Excel, Publisher, Powerpoint a Front Page.

Mae gennym hefyd lyfrgell helaeth o eiriaduron, rhestri termau a chyfeirlyfrau eraill ar ffurf copïau caled a fersiynau electronig.

Prisiau

Codir £60-£80 am bob mil o eiriau.